Straeon Llwyddiant

Straeon Llwyddiant (Case Studies)

Robert yn dychwelyd at addysg drwy learndirect

Mae Robert, sy’n 46 oed, wedi bod yn brwydro yn erbyn afiechyd ers blynyddoedd ond y newyddion da yw ei fod yn dechrau gwella ac, ar ôl bwlch o bron i 30 mlynedd, mae wedi dychwelyd i ddysgu.

Does dim all rwystro Rita rhag cyrraedd ei photensial

Er nad oedd hi’n gallu gweithio am 26 mlynedd, mae Rita Dowling o Rydaman yn benderfynol o oresgyn ei phroblemau iechyd ac ennill cymwysterau a chanfod gwaith.

Dyw Sarah methu rhoi'r gorau i ddysgu...

Roedd Sarah Lewis o Bontypridd am ddysgu sgiliau newydd er mwyn bod yn annibynnol. 4 blynedd yn ddiweddarach, nid oes unrhyw arwydd ei bod am roi�r gorau iddi...

Troi rhwystr yn gyfle

Er iddi ddarganfod bod MS arni yn 1980, gweithiodd Ros Evans fel cynorthwy-ydd rhan-amser yn Argos am un mlynedd ar ddeg. Am nifer o flynyddoedd, roedd yr afiechyd yn gwella, ond yna yn 1995, dechreuodd waethygu eto, gan ei gorfodi i ymddeol oherwydd ei hafiechyd.

Nicola Holmes, Y Waun

Pan ddechreuodd Nicola Holmes weithio fel tiwtor yng nghanolfan dysgu Llyfrgell y Waun, roedd hynny er mwyn cynnig sesiynau blasu cyfrifiadur am ddim i drigolion y Waun a Glyn Ceiriog.

Natalie’n dysgu i gael dyfodol gwell

Pan ddechreuodd Natalie Griffiths, sy’n 21 oed, feddwl am ei dyfodol, sylweddolodd y byddai gwella ei sgiliau Mathemateg a Saesneg yn ei helpu hi i gael swydd dda.

Joanne Thomas, Hwlffordd

Joanne Thomas yw e-ddysgwr y flwyddyn yng Nghymru, gwobr a noddir gan learndirect, fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion NIACE Dysgu Cymru. Cyflwynwyd y teitl iddi yn Seremoni Wobrwyo Wythnos Addysg Oedolion yn Llandudno. Yn ddiweddarach cyflwynwyd cyfrifiadur iddi oddi wrth learndirect mewn seremoni yng Ngholeg Penfro.

Cnoi Cil - sgiliau iaith i weithwyr mudol

Ffatri Cynhyrchu Bwyd Leol; RF Brooks yn dangos ymrwymiad i Addewid y Cyflogwr

Andrew Evans

Mae Andrew Evans wedi bod yn diwtor/gyrrwr ar fws Cyberlink Llyfrgelloedd Pen-ybont ar Ogwr yn darparu sgiliau TG, rhifedd a llythrennedd sylfaenol ers pum mlynedd.

Cyn weithiwr Hoover yn manteisio ar sgiliau cyflogadwyedd newydd

Roedd Liam McNamara o Ferthyr yn un o’r cannoedd o drigolion lleol a ddioddefodd yn sgil y dirwasgiad a’r effeithiau trychinebus a gafodd ar ddiwydiant gweithgynhyrchu’r ardal.

Anghofiwch am eich oedran. Dysgu sy’n bwysig!

Fel cymaint ohonom ni, gallai bywyd Susan Thomas o Bontardawe fod wedi dilyn trywydd gwahanol iawn pe na bai ganddi nod, breuddwyd a fyddai’n ei hysgogi i wireddu ei photensial.

Mam a merch yn ennill cymwysterau TG

Nid oes unrhyw beth all atal y fam a’r ferch, Karen a Cathrine, rhag gwella eu CVs a’u rhagolygon gyrfa wrth iddynt ennill y cymhwyster Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL) trwy learndirect a Choleg Pontardawe.

Taid yn ennill sgiliau ar gyfer yr 21ain Ganrif

Roedd Graham Morris o Gwmafan bron yn 80 mlwydd oed pan benderfynodd ennill sgiliau ar gyfer yr 21ain Ganrif a chofrestru ar gwrs learndirect mewn cyfrifiadura sylfaenol yn ei lyfrgell leol.

Dychwelyd i Ddysgu = Dychwelyd i’r Gwaith

Mae Julie Brown o Wrecsam, sy’n gofalu am ei dau blentyn yn llawn amser, yn ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arni trwy’r darparwr dysgu ar-lein learndirect a Choleg Iâl.