Mae Andrew Evans wedi bod yn diwtor/gyrrwr ar fws Cyberlink Llyfrgelloedd Pen-ybont ar Ogwr yn darparu sgiliau TG, rhifedd a llythrennedd sylfaenol ers pum mlynedd.
Mae wedi cyflwyno sesiynau Cyberskills 3 wythnos, a chyflwyniad i TG, ac yna´n cofrestru pobl ar gyfer cyrsiau learndirect. Yn wir, erbyn hyn mae´r rhan fwyaf o´i fyfyrwyr wedi cofrestru ar y cyrsiau ar-lein, ond mae Andrew yn parhau i´w cymell a´u cynorthwyo.
Mae Andrew wedi darparu´r gwasanaeth hwn ar ei ben ei hun am 18 mis gan weithio o dan amgylchiadau anodd - yn dal ati i ysgogi ei fyfyrwyr i barhau i ddysgu ac annog llawer mwy i gymryd y cam cyntaf yn ôl i ddysgu. Dechreuodd ei yrfa ym maes dysgu oedolion fel tiwtor rhan-amser yng Ngholeg Abertawe, ac o dipyn i beth cafodd swydd lawn amser yng Ngholeg Aberdâr. O´r fan honno ail-hyfforddodd Andrew trwy gwrs dysgu o bell a daeth yn hyfforddwr TG ar ei liwt ei hun, gan weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Gwasanaeth Tân De Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a´r DVLA.
Meddai, "Cyrhaeddais i bwynt lle´r oeddwn i´n cyfarfod â phobl trwy´r gwaith llawrydd, ond doeddwn i ddim yn gallu datblygu perthynas â nhw am fy mod i´n hyfforddi gwahanol bobl trwy´r amser, ac o ganlyniad doeddwn i byth yn gweld ffrwyth eu llafur na´u cyrhaeddiadau. Mae´r gwaith hwn yn golygu fy mod i´n gweithio´n agos gyda dysgwyr yn y gymuned a dwi´n mwynhau hynny´n fawr, ac mae´n rhoi boddhad i mi o weld pobl yn dod yn eu blaen ac yn chwalu rhwystrau sydd wedi´u hatal rhag dysgu sgiliau newydd."
Enillodd Andrew wobr e-diwtor learndirect yn Seremoni Gwobrau Tiwtoriaid NIACE Dysgu Cymru yn ddiweddar.