Cnoi Cil - sgiliau iaith i weithwyr mudol

Ffatri Cynhyrchu Bwyd Leol; RF Brooks yn dangos ymrwymiad i Addewid y Cyflogwr

Mae’r tîm learndirect yng Ngholeg Gwent yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r adran Sgiliau Sylfaenol yn y Coleg i ddarparu hyfforddiant staff cynhwysfawr i ffatri cynhyrchu bwyd leol R F Brooks. Bydd y rhaglen, sy’n cael ei darparu drwy learndirect gyda chymorth staff sgiliau sylfaenol y Coleg, yn canolbwyntio ar anghenioniaith Saesneg a llythrennedd sylfaenol.

Mae R F Brooks yn cyflogi dros 830 o weithwyr sy’n cynnwys pobl o fwy nag ugain o wledydd gwahanol. Roedd angen rhaglen a fyddai’n rhoi hyfforddiant mewn Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL) a darparu llwybr i weithwyr cyflogedig ddatblygu eu sgiliauymhellach.

Meddai Maliika Kaaba, Rheolwr Sgiliau Sylfaenol ac Allweddol Coleg Gwent: “Mae’r rheolwyr yn R F Brooks yn cydnabod bod angen i staff wella eu sgiliau iaith Saesneg er mwyn gweithio’n well yn y gweithle. Bydd gwella sgiliau iaith staff nid yn unig yn gwella cynhyrchiant ond bydd yn creu amgylchedd gweithiomwy diogel i bawb.

“Mae canolfan ddysgu wedi cael ei hadeiladu ar y safle ac mae rhaglen hyfforddi gyfunol yn cael ei darparu bellach, sy’n cyfuno cyrsiau ESOL a llythrennedd a rhifedd sylfaenol learndirect gyda chynnwys pwrpasol sydd yng ngofal tiwtoriaid Coleg Gwent.

“Mae’r prosiect hwn yn rhan o’n hymrwymiad i fenter Addewid y Cyflogwr. Mae Coleg Gwent wedi cyflogi tri aelod o staff yn unswydd i hyrwyddo Addewid y Cyflogwr ac i gwrdd â chwmnïau ledled Gwent i gynghori ar sut gellir cefnogi rhaglenni unigol datblygu’r gweithlu.

Bydd gan bob cwmni anghenion hyfforddi gwahanol ond mae hyblygrwydd dysgu ar-lein a’r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael drwy learndirect yn golygu ein bod yn gallu cynnig atebion unigryw i gynorthwyo pob cyflogwr."

Ychwanegai Jeff Greenridge, Pennaeth learndirect yng Nghymru: “Mae’r nifer cynyddol o weithwyr mudol yn golygu fod llafurlu Cymru’n newid a chwmnïau gwych fel R F Brooks sy’n gosod esiampl drwy sicrhau bod gan eu gweithwyr cyflogedig y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eu gwaith yn ddiogel a'u galluogi i integreiddio yn y cymunedau y maent yn byw ynddynt. Rydw i’n falch iawn bod learndirect wedi bod mor fuddiol ac wrth fy modd fod Coleg Gwent ac R F Brooks wedi dangos y fath ymrwymiad i Addewid y Cyflogwr ar Sgiliau Sylfaenol”.

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team