Anghofiwch am eich oedran. Dysgu sy’n bwysig!

RobertFel cymaint ohonom ni, gallai bywyd Susan Thomas o Bontardawe fod wedi dilyn trywydd gwahanol iawn pe na bai ganddi nod, breuddwyd a fyddai’n ei hysgogi i wireddu ei photensial.

Yn 48 oed, does dim a all rwystro Susan rhag gwireddu ei breuddwyd o fynd i Brifysgol a herio’i hun i ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen i fynd yno. Ar ôl gwahanu oddi wrth ei gŵr, roedd Susan yn ei chael hi’n anodd ymdopi ac o ganlyniad, bu’n rhaid iddi adael ei swydd ar ôl 20 mlynedd.

Tan hynny, roedd Susan wedi gweithio i BT am 28 mlynedd ac roedd hi hyd yn oed yn un o Gynrychiolwyr Dysgu’r Undeb, yn cynghori ac annog aelodau eraill o staff BT i ennill sgiliau a chymwysterau i’w helpu i fagu hyder a chael dyrchafiadau yn y gwaith.

Yn ffodus, fe wnaeth hi benderfynu gwrando ar ei chyngor ei hun ac mae hi wedi cwblhau cwrs mynediad mewn Dyniaethau a’r Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd trwy learndirect.co.uk

Meddai Susan:
“Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. Rydych chi’n ennill y sgiliau a’r cymwysterau i fynd ymlaen i’r brifysgol neu newid eich gyrfa ond rydych chi hefyd yn magu’r hyder sydd ei angen. Roedd ochr gymdeithasol dysgu o gymorth mawr i mi ac mae’r lleoliad anffurfiol a dysgu hyblyg wedi gwneud byd o les i’m hyder. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r brifysgol ac rwy’n falch iawn mod i wedi ymdopi yn ystod cyfnodau digon anodd.”

Mae Susan wedi cael lle ym Mhrifysgol Abertawe.