Taid yn ennill sgiliau ar gyfer yr 21ain Ganrif

RobertRoedd Graham Morris o Gwmafan bron yn 80 mlwydd oed pan benderfynodd ennill sgiliau ar gyfer yr 21ain Ganrif a chofrestru ar gwrs learndirect mewn cyfrifiadura sylfaenol yn ei lyfrgell leol.

Er iddo ymddeol dros 25 mlynedd yn ôl, roedd Graham yn benderfynol o ennill sgiliau llythrennedd digidol hanfodol, a chadw mewn cysylltiad â’i 4 o wyrion ac wyresau.

“Nid yw darllen yn ddigon i gadw’r meddwl yn weithgar. Mae  angen heriau newydd ac mae’n rhaid dal ati i wthio eich hun,” esboniodd Graham.

Roedd hynny ddwy flynedd yn ôl, ac erbyn hyn mae Graham yn gallu mynd ar y rhyngrwyd ac e-bostio ffrindiau a theulu. Mae ganddo gyfrifiadur a’r rhyngrwyd yn ei gartref hyd yn oed!

“Mae fy wyrion yn gwybod llawer mwy na fi ond mae ymweld â nhw a siarad gyda nhw am beth maen nhw’n ei wneud ar y cyfrifiadur yn deimlad rhyfeddol. Mae’r dosbarthiadau hyn wedi fy ngalluogi i deimlo’n rhan o fywydau fy wyrion a dysgu am eu diddordebau”, esboniodd Graham.

Lleolir Llyfrgell Cwmafan, fel unrhyw lyfrgell leol arall, yng nghanol y gymuned ac mae’n galluogi unigolion i gymdeithasu â ffrindiau hen a newydd. Mae Graham yn dod i’r llyfrgell i ddysgu o leiaf unwaith yr wythnos yn ystod y sesiynau tiwtorial learndirect dan ofal Rosemary Royce, Rheolwr Partneriaeth learndirect, yn ogystal â defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell i astudio gyda chymorth staff y llyfrgell ar brydiau eraill.

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team