Joanne, mam sengl sy'n llwyddo i e-ddysgu ar ben popeth arall

Joanne Thomas yw e-ddysgwr y flwyddyn yng Nghymru, gwobr a noddir gan learndirect, fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion NIACE Dysgu Cymru. Cyflwynwyd y teitl iddi yn Seremoni Wobrwyo Wythnos Addysg Oedolion yn Llandudno. Yn ddiweddarach cyflwynwyd cyfrifiadur iddi oddi wrth learndirect mewn seremoni yng Ngholeg Penfro.

A hithau wedi ei hyfforddi fel cogydd yn wreiddiol, nid yw Joanne, sy'n fam sengl, wedi gweithio ers i'w mab chwe blwydd oed Jacob gael ei eni. Roedd hi'n benderfynol o gael ei chyflogi eto, felly penderfynodd gael y sgiliau TG diweddaraf. Gan fwriadu newid cyfeiriad, penderfynodd ganolbwyntio ar weinyddu swyddfa.

"Ro'n i'n gwybod bod rhaid i mi gael y sgiliau cywir i fynd n�l i'r gwaith a bod y lefel roedd ei hangen wedi codi'n sylweddol ers i mi gael fy nghyflogi ddiwethaf."

"Dwi wedi cwblhau'r Drwydded Yrru Cyfrifiadur Ewropeaidd (ECDL) a dwi bellach yn defnyddio learndirect ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau ar y cyfrifiadur fel Powerpoint 2000, cyhoeddi pen bwrdd a dwi ar fin dechrau ar raglen cadw cyfrifon busnes Sage."

"Roedd hi'n hawdd mynd n�l i ddysgu yng Ngholeg Penfro ac oherwydd fy mod i'n cwblhau'r cwrs drwy ddefnyddio learndirect dw i'n gallu gwneud pethau yn fy mhwysau fy hunan, sy'n hynod gyfleus i mi gan mai fi sydd �'r cyfrifoldeb o ofalu am fy mab."

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team