Dychwelyd i Ddysgu = Dychwelyd i’r Gwaith

Mae Julie Brown o Wrecsam, sy’n gofalu am ei dau blentyn yn llawn amser, yn ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arni trwy’r darparwr dysgu ar-lein learndirect a Choleg Iâl.

Mae Julie am wneud ei gorau glas i sicrhau y bydd hi’n gallu helpu ei bechgyn gyda’u gwaith cartref pan fyddan nhw’n hyn, ac mae hi hefyd eisiau swydd dda fel y byddan nhw’n falch ohoni.
Mae Julie wedi cwblhau cwrsiau wella’i sgiliau Mathemateg a Saesneg ac mae hi’n gobeithio mynd ati i ddilyn y cwrs Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL),
cymhwyster y mae sawl cyflogwr bellach yn gofyn amdano.

Meddai Julie: “Awgrymodd fy Nghanolfan Waith leol y gallwn i ddychwelyd i ddysgu, a learndirect oedd y dewis amlwg.  Mae’r cyrsiau’n hyblyg felly roeddwn i’n gallu dechrau ar unwaith ac, ar hyn o bryd, rwy’n dod i mewn 3 diwrnod yr wythnos i gyd-fynd â threfniadau gofal plant. Mae gallu cael mynediad i fy nghwrs ar-lein gartref hefyd yn golygu y galla i barhau â’m hastudiaethau yn fy amser hamdden”.