Mam a merch yn ennill cymwysterau TG

RobertNid oes unrhyw beth all atal y fam a’r ferch, Karen a Cathrine, rhag gwella eu CVs a’u rhagolygon gyrfa wrth iddynt ennill y cymhwyster Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL) trwy learndirect  a Choleg Pontardawe.

Mae’r fam fywiog, Karen, yn chwilio’n gyson am ffyrdd o gadw ei meddwl yn ifanc ac o ennill sgiliau newydd ac yn gobeithio y bydd cael cymhwyster cyfrifiadurol cenedlaethol cydnabyddedig yn fodd iddi allu datblygu ei hun ymhellach. Mae ei merch, Cathrine, yn gweithio fel Athrawes Ysgol Gynradd ac am ennill y cymhwyster ECDL i wella ei CV a datblygu ei gyrfa. Mae hefyd yn gobeithio y bydd y cwrs hwn yn sicrhau bod ganddi fwy o wybodaeth am gyfrifiaduron na’r plant yn ei dosbarth!

Karen sy’n egluro: “Tua 8 mlynedd yn ôl, fe ddechreuais gwrs cwnsela a dwi di bod yn dysgu ers hynny. Dwi’n mwynhau dysgu gyda learndirect gan fod popeth mor hyblyg. Gallwch ailddechrau o’r pwynt y gorffennoch chi’r tro diwethaf a dysgu ar gyflymder sy’n addas i chi yn dibynnu ar eich ymrwymiadau eraill. Mae Cathrine yn gallu dysgu ar ei liwt ei hun ond dwi’n hoffi cael tiwtor yn yr ystafell. Mae’n siŵr mai’r gwahaniaeth rhwng dwy genhedlaeth a’r math o ddysgu rydych chi’n gyfarwydd ag ef yw’r rheswm”.

Mae Karen a Cathrine yn mwynhau mynd i’r ganolfan ddysgu yng Ngholeg Pontardawe bob wythnos, sy’n rhan o Goleg Castell-nedd Port Talbot, ond maent yn mwynhau gweithio ar eu modiwlau gartref hefyd.

Meddai Cathrine, “Mae’n braf cael mynd i’r ganolfan gyda’n gilydd, rydyn ni’n gallu rhoi hwb i’n gilydd ac i fod yn onest, mae yna ychydig o gystadleuaeth rhyngon ni sy’n ein gyrru ymlaen! Mae’n cynnal ein brwdfrydedd! Os ydym wedi blino neu’n teimlo bod y tywydd yn rhy oer i fynd allan o’r tŷ, rydym yn dal i fynd i’r ganolfan gan nad oes yr un ohonon ni am siomi’r llall”.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar gwrs learndirect cysylltwch â www.nothingcanstopyou.co.uk neu www.nptc.ac.uk.

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team