Cyn weithiwr Hoover yn manteisio ar sgiliau cyflogadwyedd newydd

RobertRoedd Liam McNamara o Ferthyr yn un o’r cannoedd o drigolion lleol a ddioddefodd yn sgil y dirwasgiad a’r effeithiau trychinebus a gafodd ar ddiwydiant gweithgynhyrchu’r ardal. Er gwaethaf pob disgwyl, mae Liam, sy’n 41 oed, ar ei ffordd yn ôl i waith drwy’r rhaglen gyflogadwyedd a gynigir gan gwmni gweithgynhyrchu hynaf Merthyr, Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful a’r darparwr dysgu ar-lein learndirect.

Bu Liam yn gweithio ar y llinell gynhyrchu yn ffatri Hoover am 14 mlynedd. Roedd yn un o’r 337 o weithwyr a gollodd eu swyddi yn y ffatri yn gynharach eleni ac ar ôl bod yn chwilio am waith am 6 mis, mae nawr ar y ffordd i sicrhau swydd trwy raglen gyflogadwyedd newydd a gynigir gan SDMT, yn defnyddio deunydd dysgu Working Ways learndirect.

Mae Liam bellach ar lwybr newydd i gyflogaeth ar ôl cael ei gyfeirio o dan y Cynllun Cam at Waith gan ei Ganolfan Byd Gwaith lleol. Mae’n ennill sgiliau a phrofiad gwaith drwy ffatri Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful (SDMT). Nid ffatri yn unig mo SDMT – mae hefyd yn cynnig gwasanaeth cyflogaeth, yn helpu aelodau o’r gymuned leol, waeth a oes ganddynt anabledd ai peidio, i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddychwelyd i weithio.

Mae Liam bellach wedi cwblhau ei gwrs cyflogadwyedd 8 wythnos ac meddai:

“Fe adewais yr ysgol heb fawr o gymwysterau a dim ond ar ôl tyfu’n oedolyn y sylweddolais fy mod i’n dyslecsig.

“Dwi’n gwybod fod yna lawer o bobl yn yr un sefyllfa â mi, ond dyw hynny ddim yn gwneud pethau’n haws. Os byddwch chi yn yr un sefyllfa rhywbryd, ceisiwch wneud y gorau o’r sefyllfa a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ennill sgiliau. Mae sgiliau TG yn arbennig o ddefnyddiol gan fod pob cyflogwr yn gofyn am y rhain erbyn hyn”.
.

“Rwy’n lwcus bod fy ngwraig yn dal i weithio ond nid yw eraill yr un mor lwcus. Os yw hyn yn wir amdanoch chi, peidiwch ag oedi gan fod yna swyddi i’w cael, ond mae angen i chi wneud popeth o fewn eich gallu gan y bydd rhaid i chi gystadlu amdanynt.”

Os hoffech ragor o wybodaeth am y cwrs Working Ways cysylltwch â cymru@ufi.com.

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team