Natalie’n dysgu i gael dyfodol gwell

NataliePan ddechreuodd Natalie Griffiths, sy’n 21 oed, feddwl am ei dyfodol, sylweddolodd y byddai gwella ei sgiliau Mathemateg a Saesneg yn ei helpu hi i gael swydd dda. Aeth Natalie ymlaen i ennill cymhwyster cyfrifiaduro a sgiliau rhifedd trwy learndirect.

Meddai Natalie: “Pan oedd fy merch yn 18 mis oed, dechreuais sylweddoli nad oedd gen i unrhyw beth yn gefn i mi, dim cymwysterau na sgiliau ar gyfer y dyfodol. Gadewais yr ysgol gyda rhai cymwysterau TGAU ond doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor bwysig oedd cymwysterau Mathemateg, Saesneg a Chyfrifiadura. Erbyn hyn, mae fy merch yn ddigon hen i mi ddechrau chwilio am waith, ond dim ond pan ddechreuais i edrych ar hysbysebion swyddi y gwnes i sylweddoli fod y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gofyn am y cymwysterau hyn. Roedd hi’n bryd i mi feddwl o ddifrif am y peth ac mae bywyd yn rhy fyr i golli cyfleoedd fel hyn”.

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team