Pan ddechreuodd Nicola Holmes weithio fel tiwtor yng nghanolfan dysgu Llyfrgell y Waun, roedd hynny er mwyn cynnig sesiynau blasu cyfrifiadur am ddim i drigolion y Waun a Glyn Ceiriog.
Flwyddyn yn ddiweddarach ac mae'r llyfrgell bellach yn gartref i ganolfan ddysgu learndirect ffyniannus, gyda phedwar dwsin o ddysgwyr yn cael mynediad i amrywiaeth o gyrsiau learndirect - ac mae'r nifer yn tyfu bob dydd.
Daeth learndirect ag arddull newydd o ddysgu i'r Waun a'r ardal gyfagos, ac roedd hynny yn ei dro'n gofyn am wybodaeth ddyfnach gan diwtoriaid fel y gallent ymdopi � chwestiynau'r dysgwyr:
'Mae cyrsiau learndirect i gyd yn digwydd ar-lein. Maen nhw wedi eu paratoi ar gyfer unigolion, felly rydych chi'n gwneud cynnydd wrth eich pwysau. Er fy mod i'n teimlo'n hyderus o ran ateb cwestiynau ynghylch materion yn ymwneud � chyfrifiaduron, roeddwn i'n teimlo nad oeddwn i'n gwybod digon am ddeunydd dysgu learndirect ei hun.'
Ond doedd hyn ddim yn mennu dim ar Nicola. Penderfynodd fwrw iddi a dilyn cwrs learndirect ei hun:
'Roedd gen i HNC mewn Busnes a Thechnoleg Gwybodaeth yn barod, felly roeddwn i'n gyfarwydd �'r holl ddeunydd roedd y cwrs yn ei gyflwyno. Ond pan ddechreuodd pobl ddod ata i � chwestiynau nad oeddwn i'n gallu eu hateb, roeddwn i'n gweld bod rhywbeth ar goll gen i. Sylweddolais, os oeddwn yn mynd i gefnogi pobl a oedd yn defnyddio deunydd learndirect, bod angen i mi wybod mwy amdano fy hun.'
Roedd Nicola mor gyfarwydd � dadansoddi anghenion dysgu pobl eraill. Y tro yma dadansoddodd ei hanghenion ei hun a'r ateb oedd Cyflwyniad i Sgiliau Cyfrifiadur Swyddfa: 'Mae'n becyn ardderchog sy'n cwmpasu popeth o brosesu geiriau a thaenlenni i gronfeydd data a chyflwyniad i ochr dechnegol cyfrifiaduron. Cefais gipolwg ar brofiad dysgwyr learndirect - a hefyd gloywi'r sgiliau roeddwn i wedi eu dysgu yn y coleg.' Un o fanteision learndirect, beth bynnag yw eich lefel a'ch profiad blaenorol, yw y gallwch ddysgu cyrsiau learndirect 'fesul tipyn', felly gallai Nicola wneud ychydig o ddysgu pan fyddai cyfnod tawel yn y gwaith.
'Dilynais y cwrs cyfan yn ystod amser gwaith - pryd bynnag roedd gen i ryw awr yn rhydd rhwng apwyntiadau, byddwn i'n mynd at y cyfrifiadur ac yn bwrw 'mlaen.' Mae Nicola wrth ei bodd �'r gwahaniaeth mae'r cwrs wedi ei wneud iddi:
'Dwi wedi dod yn llawer mwy hyderus. Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig i brofi'r hyn mae'r dysgwr yn ei brofi wrth ddilyn cwrs learndirect. A minnau bellach wedi gweld learndirectdrwy lygaid y dysgwyr, dwi'n gwybod pa fath o gwestiynau a allai godi a dwi'n gallu eu hegluro nhw'n llawer gwell. Ac mae gen i fwy o gydymdeimlad �'r problemau y gallan nhw ddod ar eu traws. At hynny, mae hyn wedi cael effaith gynyddol, oherwydd mae gan y dysgwyr lawer mwy o hyder ynddo i.'