Does dim all rwystro Rita rhag cyrraedd ei photensial

RobertEr nad oedd hi’n gallu gweithio am 26 mlynedd, mae Rita Dowling o Rydaman yn benderfynol o oresgyn ei phroblemau iechyd ac ennill cymwysterau a chanfod gwaith.

Daeth Rita i’r Ganolfan Ddysgu yng Ngholeg Pontardawe am y tro cyntaf ddwy flynedd yn ôl heb unrhyw gymwysterau. Bellach mae ganddi gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn rhifedd, llythrennedd a chyfrifiaduron ac mae hi’n gwirfoddoli yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth erbyn hyn.

Meddai Rita: “Y peth gwych am ddysgu gyda learndirect yw eich bod yn gallu dysgu pryd y mynnoch. Mae amser maith ers i mi fod yn yr ysgol ac nid oedd yn brofiad hapus i mi. Ni fyddwn wedi gallu ymdopi â dychwelyd i’r ystafell ddosbarth, felly roedd y dosbarthiadau anffurfiol hyn yn ddelfrydol.
Nid wy’n gyrru ac mae cael canolfan ddysgu yn y dref yn gyfleus iawn. Mae awyrgylch yr ystafell ddosbarth mor gyfeillgar a hamddenol ac rwy’n mwynhau dod yn fawr. Rwy’n mynychu dwywaith yr wythnos ar hyn o bryd, ac yn parhau i ddysgu gartref, er mwyn i mi allu cyflawni fy nghyfrifoldebau eraill.

Mae Rita yn gwneud cynnydd anhygoel yn ei chyrsiau ac mae hi wedi cwblhau cwrs cynnal a chadw a diogelwch cyfrifiaduron yn ddiweddar. Mae hi wrthi’n dilyn cwrs ‘Your call - Call Centre Pre-employment’ gan learndirect  ar hyn o bryd. Meddai Rita, “Nid wy’n credu y byddwn wedi mor llwyddiannus hyd yma heb fy nhiwtor, sy’n gefnogol ac yn gymorth mawr bob amser. Mae hi’n fy ysbrydoli a fy ysgogi i barhau”.

Jan Osman yw tiwtor Rita yng Ngholeg Pontardawe a dywedodd: “Mae’r newid yn Rita ers iddi ddod yma gyntaf wedi bod yn syfrdanol. Mae ei hyder wedi cynyddu gymaint a mae hi’n dysgu gyrru erbyn hyn hyd yn oed. Rwy’n mawr obeithio y bydd ei gwaith caled yn talu ar ei ganfed”.

Am ragor o wybodaeth am sut i ddechrau ar gwrs learndirect, ewch i www.nothingcanstopyou.co.uk neu www.nptc.ac.uk.

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team