Mae Robert, sy’n 46 oed, wedi bod yn
brwydro yn erbyn afiechyd ers blynyddoedd ond y newyddion da yw ei fod
yn dechrau gwella ac, ar ôl bwlch o bron i 30 mlynedd, mae wedi
dychwelyd i ddysgu.
Cafodd Robert brofiad gwael yn yr ysgol a chafodd ei labelu fel rhywun ag anawsterau dysgu, er nad oedd hynny’n wir o gwbl. Mewn gwirionedd, mae Robert yn dioddef o glefyd coeliag, sef anghydbwysedd ym maetholion y corff sy’n atal datblygiad. Dim ond 2 flynedd yn ôl y cafodd Robert y diagnosis hwn ac, ers hynny, mae wedi gweddnewid ei fywyd ac wedi dod o hyd i frwdfrydedd mawr dros ddysgu, gyda’r nod o ennill digon o wybodaeth am gyfrifiaduron i gael swydd dda.
Meddai Robert: “Mae learndirect wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi cymaint o hyder i mi. Rwy’n teimlo mor lwcus fy mod i wedi gallu dychwelyd i ddysgu. Rydw i wedi colli gormod o flynyddoedd o dangyflawni ac rwy’n gobeithio y galla i symud ymlaen i sicrhau cyflogaeth addas a gwireddu breuddwyd”.