Troi rhwystr yn gyfle

Er iddi ddarganfod bod MS arni yn 1980, gweithiodd Ros Evans fel cynorthwy-ydd rhan-amser yn Argos am un mlynedd ar ddeg. Am nifer o flynyddoedd, roedd yr afiechyd yn gwella, ond yna yn 1995, dechreuodd waethygu eto, gan ei gorfodi i ymddeol oherwydd ei hafiechyd. I Ros, person allblyg sy'n mwynhau siarad � phobl a chwrdd � nhw, roedd hon yn ergyd fawr. Meddai, "Roeddwn i'n teimlo 'mod i wedi gweld fy nyddiau gorau."

Dros y blynyddoedd, roedd hi wedi bod yn mynd i ddosbarthiadau dysgu Cymraeg. Byddai'n mynd i ddosbarthiadau, rhoi'r gorau iddi, ac yna'n ailgydio eto. Gallai un o'i ffrindiau gorau weld y tro hwn ei bod hi wir yn ddigalon, a gwrthododd adael iddi roi'r gorau iddi. 'Beth hoffet ti wneud nesaf?' gofynnodd. 'Cyfrifiaduron,' atebodd Ros. 'Cer amdani!' atebodd ei ffrind. Felly, dechreuodd Ros ar CLAIT yn nghanolfan Queen Street Coleg Castell-nedd Port Talbot.

Ar �l iddi orffen, gofynnodd beth allai hi wneud nesaf. Ar y pryd, byddai cario 'mlaen yn golygu astudio yn y prif goleg, a doedd hi ddim eisiau gwneud hynny. Ond rywbryd yn ddiweddarach, galwodd yn y ganolfan yn Queen Street eto, a gweld ei bod wedi newid.Gofynnodd a allai astudio unrhyw beth i'w wneud � chyfrifiaduron. Dyma rheolwr learndirect canolfan Queen Street, Sean Yarranton, yn cyflwyno learndirect iddi.

Yn y pen draw, ar �l cwrs Cyflwyniad i Gyfrifiaduron, astudiodd brosesu geiriau, taenlenni a chronfeydd data.

'Helpodd learndirect feithrin ei hyder rhwng CLAIT a'r cwrs ECDL mae hi'n ei ddilyn ar hyn o bryd,' meddai Sean.

'Dwi'n hoffi'r bobl fan hyn,' meddai Ros. 'Maen nhw mor garedig. Awgrymodd fy ngwr y dylen ni brynu cyfrifiadur i'r ty, ond byddai hynny'n difetha'r nod i mi. Dwi wedi gorfod gwneud ymdrech i gyrraedd yno, a pharcio ar ben yr hewl. Dwi ddim eisiau eistedd mewn cadair freichiau gartre.'

A beth nesaf? Dydy Ros erioed wedi bod yn un i aros gartref. Mae hi wedi teithio ar ei phen ei hun i Rwsia, Tsiena, Gwlad yr Iorddonen, yr Aifft, Israel a Thwrci. Mae hi wedi ystyried ysgrifennu am ei phrofiadau. Ond wedyn, byddai hefyd yn hoffi ymchwilio i'w hachau. 'Mae gormod ar y gweill gyda fi,' meddai Ros, 'Dwi'n gwneud mwy nag y bues i erioed.'

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team