Roedd Sarah Lewis o Bontypridd am ddysgu sgiliau newydd er mwyn bod yn annibynnol. 4 blynedd yn ddiweddarach, nid oes unrhyw arwydd ei bod am roi’r gorau iddi...
Ar ôl sawl blwyddyn yn astudio Saesneg, Mathemateg a Chyfrifiadureg yng Nghanolfan Dysgu Agored Coleg Morgannwg ym Mhontypridd, mae Sarah wedi cwblhau ei chwrs mynediad lefel 3 learndirect mewn rhifedd a llythrennedd.
Meddai Sarah: “Gwelais learndirect yn cael ei hysbysebu ar y teledu ac ar ôl gweld bod y ganolfan yn cynnig y cyrsiau, roedd yn rhaid i mi roi cynnig ar un. Trwy ddod i’r ganolfan unwaith yr wythnos rydw i wedi cynyddu fy sgiliau a dod yn fwy annibynnol, ac mae wedi rhoi amser eu hunain i’m rhieni.
Rydw i’n dibynnu ar fy rhieni i fynd â mi i’r ganolfan ac mae gallu dysgu gartref wedi’m cynorthwyo i barhau i ddysgu yn fy amser fy hun heb orfod dibynnu ar unrhyw un arall. Mae holl staff y ganolfan wedi bod yn fwy na pharod i’m helpu a hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi fy nghynorthwyo a gobeithio y caf ddod yn ôl i wneud cwrs arall”.
Mae Sarah bellach yn edrych ymlaen at ei her nesaf ac mae’n gobeithio dechrau ar ei Lefel 1 mewn rhifedd ym mis Medi.
"Fy nghyngor i unrhyw un fyddai’n hoffi dysgu sgiliau newydd yw ‘ewch amdani’, a fyddwch chi ddim yn difaru. Peidiwch â phoeni am beth fydd pobl yn ei ddweud ac mae pawb mor gyfeillgar a pharod eu cymwynas drwy’r amser. Byddwch yn cyfarfod llwyth o bobl newydd ac yn gwneud ffrindiau da” meddai Sarah.
Meddai Jeff Greenidge, Pennaeth Ufi Cymru: “Mae gwaith caled a brwdfrydedd Sarah wedi’i galluogi i feithrin sgiliau a gwybodaeth ragorol a fydd yn gymorth iddi ym mhopeth y bydd am ei wneud. Rwy’n falch iawn bod Sarah wedi gallu dysgu mor gyflym diolch i hyblygrwydd a hygyrchedd cyrsiau learndirect, a gobeithio y bydd yn mynd o nerth i nerth”.