Gwobrau Cyrhaeddiad learndirect 2008

Pwy Ddylai Ymgeisio?

Categorïau Dysgwr Unigol

Gwobr Sgiliau ar gyfer Gwaith

Dysgwyr sydd wedi dilyn rhaglen ddysgu learndirect er mwyn dychwelyd i weithio. Dysgwyr cyflogedig sydd wedi cael cefnogaeth eu cyflogwyr i ddilyn rhaglen ddysgu learndirect sydd wedi arwain at ddatblygu gyrfa a/neu fanteision i´r busnes.

Gwobr Cynnydd

Dysgwyr sydd wedi dilyn rhaglen ddysgu learndirect ac sydd bellach yn dysgu mwy er mwyn dilyn gyrfa neu ffordd o fyw newydd.

Gwobr Dysgwr Eithriadol

Unrhyw ddysgwyr sydd wedi cyflawni a llwyddo´n nodedig yn sgil dysgu learndirect a/neu sydd wedi goresgyn anableddau, amgylchiadau andwyol, neu sydd wedi ysbrydoli eraill i ddefnyddio learndirect.

Gwobr Unionlearn

Aelodau Undeb sydd wedi cael cefnogaeth eu cyflogwr i ddilyn rhaglen ddysgu learndirect sydd wedi arwain at ddatblygiad gyrfa a/neu fanteision i´r busnes. Aelodau Undeb sydd wedi hybu learndirect trwy eu sefydliad.

Categorïau Busnes

Gwobr Cwmni

Busnesau sydd wedi cefnogi staff i ddilyn rhaglen ddysgu learndirect ac sydd wedi cydnabod sut y gall learndirect gefnogi eu hamcanion busnes.

Gwobr Dysgu yn y Gwaith

Busnesau sydd wedi cefnogi staff i ddatblygu sgiliau gan ddefnyddio Dysgu yn y Gwaith learndirect ac sydd wedi cydnabod sut y gall dysgu gefnogi eu hamcanion busnes. Unigolion sydd wedi defnyddio Dysgu yn y Gwaith learndirect i ddatblygu eu hunain a´r busnes y maen nhw´n gweithio iddo.

Categorïau Canolfannau Dysgu

Gwobr Canolfan Ddysgu learndirect

Canolfannau dysgu learndirect sydd wedi dangos perfformiad rhagorol er mwyn darparu gofal cwsmeriaid a chefnogaeth tiwtoriaid gwych i´w dysgwyr.

Gwobr Gweithio gyda Chyflogwyr

Canolfannau dysgu learndirect sy´n gweithio gyda busnesau lleol i gynorthwyo dysgwyr.

Gwobr Staff Canolfan learndirect

Staff a thiwtoriaid canolfannau learndirect sydd wedi darparu gofal cwsmeriaid a/neu gymorth tiwtoriaid gwych i´w dysgwyr.

Cynhelir Seremoni Gwobrau Cymru ar 9 Gorffennaf 2008 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.