Lucy Own Yn Lansio Ymgyrch Llythennedd a Rhifedd

Lucy Owen, cyflwynydd BBC Wales Today, yn lansio ymgyrch ‘darllen gyda’ch gilydd, chwarae gyda’ch gilydd’ yn Llyfrgell Abertawe.

Bu Lucy a 10 o ddisgyblion Ysgol Gynradd Waun Wen yn dathlu lansio’r ymgyrch trwy fynd ar-lein a chwarae’r gêm ryngweithiol ‘Legula Adventure, sydd wedi’i datblygu gan learndirect i helpu rhieni i ymarfer eu sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Nod yr ymgyrch yw helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion llythrennedd a rhifedd ymysg rhieni trwy adeiladu ar fanteision dysgu gyda’u plant.

Mae’r gêm yn cyfuno posau sy’n seiliedig ar fathemateg a Saesneg ac mae’n llawn lliw, antur a chyffro fel unrhyw gêm ryngweithiol arall i blant.

Mae’r ymgyrch hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i rieni a phlant ddarllen gyda’i gilydd. Yn ystod yr ymweliad, bu Lucy’n darllen llyfr learndirect, “Where did the river go?”, a oedd yn boblogaidd iawn gyda’r plant. Mae’r llyfr yn cynnwys sawl her i helpu rhieni gyda’u sgiliau mathemateg a Saesneg, tra bod y plant yn mwynhau’r stori.

Meddai Lucy Owen, sy’n fam i Gabriel, 14 mis oed:

"Dwi wedi dod yma heddiw gan fy mod i’n credu ei bod hi’n bwysig rhoi sylw i lythrennedd oedolion a sut y gellir ei wella. Dwi’n cefnogi ymgyrch learndirect a’i manteision gant y cant a dwi’n gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i lawer o oedolion."

Ychwanega Jeff Greenidge, Pennaeth learndirect yng Nghymru:

“Yn ôl astudiaethau diweddar, mae 26 miliwn o oedolion ledled y DU yn cael rhyw fath o anhawster gyda mathemateg neu Saesneg. Fodd bynnag, fel y dengys yr ymchwil, nid dim ond yn y gwaith y gall diffyg sgiliau fod yn rhwystr iddynt. Mae hefyd yn effeithio ar dasgau bob dydd fel helpu eu plant gyda’u gwaith cartref.

“Nod Legula Adventure yw annog rhieni i herio’u plant i fynd ar daith llawn hwyl i ddysgu pethau newydd – a gwella’u sgiliau mathemateg a Saesneg ar yr un pryd.”

I gael llyfr ‘Where Did The River Go?’ am ddim neu chwarae’r gêm ryngweithiol ‘Legula Adventure, ewch i www.wheredidtherivergo.co.uk.

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team