Mark Tami AS yn cofrestru ar gwrs learndirect

Aeth Mark Tami AS draw i'r Netcafe yn Shotton i roi cynnig ar y cyfrifiaduron diweddaraf i gael mynediad i'r Rhyngrwyd, a phan oedd e yno, cofrestrodd ar gwrs learndirect. Gan fod ganddo ddiddordeb mewn gwybod beth sydd gan y Rhyngrwyd i'w gynnig, cofrestrodd ar gwrs Introduction to the Internet, y byddai'n gallu ei ddilyn ar unrhyw gyfrifiadur wedi ei gysylltu �'r rhwydwaith, gartref, n�l yn swyddfa ei etholaeth neu hyd yn oed yn San Steffan.

Fel pobl eraill, mae Mark Tami'n hynod brysur a byddai'n ei chael hi'n anodd mynychu cwrs ffurfiol ar adegau penodol bob wythnos. Mae'n awyddus i barhau i ddysgu a theimlai y gallai gynnwys y cwrs learndirect yn ei amserlen brysur. Mae cyrsiau learndirect ar gael yn y Netcafe, gyda chymorth gan diwtor sydd ar gael i'r rhai sydd ei angen. Mae cyfrifiaduron ar gael i bobl eu defnyddio pan fyddant yn galw heibio, p'un ai ydynt am gael mynediad i gwrs learndirect neu'n defnyddio'r rhyngrwyd. Nid canolfan ddysgu yw'r Netcafe'n unig - mae'n gaffi ac yn fan cyfarfod i bobl a busnesau lleol.

Pan oedd yn y Netcafe, meddai Mark Tami, "Hoffwn longyfarch Coleg Glannau Dyfrdwy am gymryd y camau hynod gadarnhaol hyn i annog pobl ym mhob galwedigaeth i ddychwelyd at ddysgu. Mae'r cyfleusterau yn y Netcafe wedi creu cryn argraff arna i a bydd pobl a busnesau lleol Shotton yn sicr o elwa arnyn nhw."

Mae'r Netcafe wedi cael ei noddi gan y Gronfa Cyfleoedd Newydd sy'n dosbarthu arian loteri i brosiectau iechyd, addysg a'r amgylchedd ledled y DU.

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team