Dysgu ar-lein yn Sir Benfro

Mae Coleg Sir Benfro yn dathlu heddiw wrth iddynt gyrraedd y garreg filltir anhygoel o ddarparu 10,000 o gyrsiau learndirect! I ddathlu'r achlysur, aeth yr AC lleol, Nerys Evans a Mr Henry Jones-Davies, yr ymgeisydd seneddol ar gyfer etholaeth Preseli Sir Benfro ar-lein i weld sut mae'r coleg a'r darparwr dysgu ar-lein, learndirect, yn gweithio gyda'i gilydd i helpu myfyrwyr i ennill sgiliau a chymwysterau hanfodol ar gyfer yr 21ain ganrif.

Yn ystod yr ymweliad, bu Nerys yn siarad â myfyrwyr oedd wedi cofrestru ar amrywiol gyrsiau llawn amser, o TG i'r rhai oedd yn astudio am Ddiploma mewn Gofal Plant. Roedd y myfyrwyr hyn yn defnyddio cyrsiau learndirect i ennill sgiliau hanfodol ychwanegol. Mae cyrsiau Sgiliau Bywyd fel Getting a Job, Health and Fitness a Cash Crescentyn enghreifftiau o'r cyrsiau mae dysgwyr wedi'u cwblhau i'w helpu gyda'u sgiliau sylfaenol a'u llythrennedd ariannol.

Meddai Nerys, sydd hefyd yn llefarydd Plaid Cymru ar Addysg ac yn Gadeirydd Grŵp Band Eang i Gefn Gwlad Cymru:
"Mae cyflwyno e-ddysgu hyblyg i'r cwricwlwm yn ffordd ardderchog o roi sgiliau ychwanegol i fyfyrwyr, fel sgiliau cyflogadwyedd sy'n rhan o'r cwrs Getting a Job. Mae hyblygrwydd learndirect ac amrywiaeth y cyrsiau sydd ar gael i'w ganmol yn fawr. Wrth i ddarpariaeth band eang gynyddu yn yr ardal gobeithio y bydd cyfleoedd e-ddysgu hyblyg ar gael yn eang mewn cymunedau hefyd. Rwy'n gweld budd mawr i'r rhyngrwyd ac mae e-ddysgu yn un arall o fanteision rhagorol bod ar-lein."

Meddai Henry Jones-Davies, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn etholaeth Preseli Sir Benfro:
"Roedd hi'n wych clywed am brofiadau'r myfyrwyr o ddysgu ar-lein ac yn galonogol gweld bod rhai ohonynt yn dewis cwblhau eu cyrsiau learndirect yn eu hamser eu hunain gartref. Roeddynt yn frwdfrydig iawn am y math hwn o ddysgu ac yn cwblhau eu cyrsiau yn gyflym iawn."

Yn ôl Dr Geoff Elliott, Pennaeth Safonau a Datblygiad Academaidd y Coleg "mae learndirect yn rhan allweddol o'n darpariaeth. Mewn sir wledig yn bennaf, ond gyda band eang ar gael yn 70% ohoni, mae learndirect yn rhoi cyfle i bobl wella eu sgiliau a'u rhagolygon am waith. Felly, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein darpariaeth learndirect yn llwyddo."

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team