Plip a Dab Yh Helpu Rhieni Merthyr I Ddarllen Gyda'u Plant

Sue Leslie, Rheolwr Partneriaeth learndirect WEA gydag Owen ac Ellie o Ysgol Abercanaid.Mae’r ymgyrch ‘darllen gyda’ch gilydd, chwarae gyda’ch gilydd’ yn annog rhieni Cymru i ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd gyda’u plant gan roi cyhoeddusrwydd i’r materion hynny.

Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei gweithredu gan learndirect yn defnyddio’r thema ‘darllen gyda’ch gilydd, chwarae gyda’ch gilydd’ fel rhan o ddatblygiad plentyn i gynorthwyo i godi ymwybyddiaeth o faterion llythrennedd a rhifedd ymysg rhieni - gan annog rhieni i wella’u sgiliau mewn Saesneg a mathemateg.

Mae learndirect wedi cynhyrchu llyfr “Where Did The River Go” sy’n cynnwys y cymeriadau lliwgar Plip a Dab, sef llyfr darllen rhyngweithiol a llawn hwyl i blant ac oedolion, sy’n cynorthwyo i ailadrodd pwysigrwydd dysgu gyda’ch gilydd.

Er mwyn amlygu pwysigrwydd y llyfr – mynychodd plant ysgol Gynradd leol o Ysgol Gynradd Abercanaid grŵp darllen yn llyfrgell Merthyr gyda Plip a Dab, cymeriadau’r llyfr.

Meddai Mike Sullivan, pennaeth ysgol gynradd Abercanaid, Merthyr:

“Mae’r plant wedi cael llawer o hwyl heddiw yn cymryd rhan yn yr ymgyrch hon sy’n ffordd wych o godi ymwybyddiaeth o bwnc pwysig”.

Ychwanegodd Sue Leslie, Rheolwr Partneriaeth learndirect yn WEA:

“Mae’r llyfr am ddim a chopïau ar gael yng nghanolfan ddysgu WEA sydd ar y Stryd Fawr yng nghanol tref Merthyr. Mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaeth dysgu cyfeillgar, hamddenol ac anffurfiol i unrhyw un sydd angen cymorth i wella’u Saesneg a mathemateg.”

Gall rhieni ddefnyddio gêm, rhyngweithiol am ddim ar www.thelegulaadventure.co.uk sydd hefyd yn eu galluogi i ddatblygu’u sgiliau TGCh.

Sitemap

We are sorry we have interrupted your visit to learndirect. Please help us to improve the website by taking part in our visitor survey, which will only take 5 minutes to complete. Please fill in the survey after you have completed your visit.

Take survey later Opens new window