Dysgu ar-lein yn WEA Merthyr

Bu’r Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews yn ymweld â chanolfan ddysgu Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) i weld â’i lygaid ei hun sut mae pobl leol yn ennill sgiliau a chymwysterau trwy’r darparwr e-ddysgu learndirect.

Mae’r ganolfan, sydd yng nghanol Merthyr, wedi cynorthwyo nifer o ddysgwyr, i’w galluogi i ennill sgiliau ym maes TGCh, llythrennedd a rhifedd.  Mae’r rhan fwyaf o’r dysgwyr wedi cael eu cyfeirio i’r ganolfan trwy’r Ganolfan Byd Gwaith leol, ar ôl colli eu gwaith mewn ffatrïoedd lleol megis Hoover.

Meddai Leighton Andrews: “Mae canolfan ddysgu’r WEA ym Merthyr yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn yr ardal.  Trwy learndirect, mae’r ganolfan yn cynnig dysgu mewn union bryd, hyblyg, personol sydd ei angen yn yr ardal.  Mae’n fwy amlwg nag erioed, bod sgiliau TGCh yn hanfodol yn y farchnad swyddi heddiw ac mae’n galonogol gweld cymaint mor barod i ennill y sgiliau angenrheidiol.”

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team