Rhieni Llwynhendy yn 'anelu at y sêr'

Mae wythnos addysg oedolion wedi cyrraedd unwaith eto, ac i ddathlu Diwrnod Dysgu’r Teulu cafodd y ganolfan addysg oedolion gymunedol newydd yn Ysgol Bryn Teg, Llwynhendy, ei lansio’n swyddogol gan Helen Mary Jones AC. Ar y cyd â rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llwynhendy, Coleg Sir Gâr a’r darparwr dysgu ar-lein, learndirect, bydd Ysgol Bryn Teg nawr yn gallu cynnig cyfle i oedolion ddysgu sgiliau hanfodol mewn mathemateg, Saesneg a TG, a sgiliau cyflogadwyedd a bywyd.

Canmolodd Helen Mary Jones AC y datblygiad diweddaraf hwn yn Ysgol Bryn Teg gan ddweud: “Mae lleoliadau dysgu cymunedol yn hanfodol i gynnig cyfleoedd dysgu hyblyg mewn amgylchedd anffurfiol i oedolion a all fod yn ddihyder. Mae canolfan ddysgu yn ysgol y gymuned yn ffordd wych o gyrraedd rhieni disgyblion yr ysgol sydd angen ennill sgiliau ar frys er mwyn cael gwaith neu i helpu eu plant gyda’u gwaith cartref.”

Meddai Emyr Brown, athro TGCh yn Ysgol Bryn Teg: “Mae Bryn Teg yn ysgol flaengar lwyddiannus. Mae’r amgylchedd cefnogol, gofalgar ac ysgogiadol rydym yn ei greu i’n plant mor llwyddiannus fel ein bod yn awyddus i gynnwys oedolion sy’n dysgu yn y gymuned hefyd. Efallai fod y dysgwyr hyn wedi cael profiadau gwael wrth ddysgu yn y gorffennol neu heb gael y cyfle i ddysgu ers blynyddoedd. Mae ein hystafell ddysgu bwrpasol yn anffurfiol a gall unigolion o bob oed a gallu alw i mewn a dysgu’n hyblyg gyda chyrsiau learndirect, ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw.”

Arwyddair Ysgol Bryn Teg yw ‘anelu at y sêr’ a gall rhieni a phlant fel ei gilydd ddysgu yn yr un adeilad bellach er mwyn gwireddu eu potensial. Gall rhieni ddod i’r ganolfan ddysgu yn syth ar ôl mynd â’u plant i’r ysgol, neu cyn hynny, sy’n golygu bod modd iddyn nhw gynnwys dysgu yn eu bywyd yn hawdd.

Bydd canolfan newydd learndirect ar gael i’r gymuned leol bob dydd Mercher o 10am-12pm ac o 1pm - 3pm. Ewch i www.ysgolbrynteg.ik.org i gael rhagor o wybodaeth. Gall dysgwyr ennill sgiliau a chymwysterau gyda Chymunedau yn Gyntaf, Llwynhendy unrhyw bryd o ddydd Llun i ddydd Gwener. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau a chymwysterau learndirect ewch i www.learndirect.co.uk neu ffoniwch 0800 101 901.

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team