Llwyddiant E-ddysgu Coleg Gwent

Mae Coleg Gwent yn dathlu heddiw yn sgil eu perfformiad ardderchog yn darparu 40,000 o gyrsiau learndirect!  I nodi’r achlysur aeth Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau ar lein er mwyn gweld sut mae’r coleg a’r darparwr dysgu ar lein learndirect yn gweithio mewn partneriaeth i helpu busnesau ac unigolion i ennill sgiliau a chymwysterau allweddol ar gyfer yr 21ain ganrif.  

Bu Lesley Griffiths ar ymweliad â Penny & Giles Cyf. - cwmni gweithgynhyrchu cydrannau arbenigol ar gyfer diwydiant a’r maes awyrofod yng Nghasnewydd. Maen nhw’n un o’r cwmnïau niferus sy’n manteisio ar hyfforddiant hygyrch a hyblyg Uned Datblygu Busnes Coleg Gwent. Roedd y cwmni’n dioddef yn sgil y dirwasgiad a gofynnodd am gymorth drwy raglen Proact a gyllidir gan arian Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yn sgil y rhaglen hon, derbyniodd y cwmni gyllid i ddarparu hyfforddiant i’w weithwyr cyflogedig yn ystod oriau gwaith byrrach.

Meddai Fiona Heaton, Rheolwr Partneriaeth learndirect Coleg Gwent: “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae llawer mwy o gwmnïau wedi bod yn gofyn am hyfforddiant hyblyg er mwyn parhau i fod yn gystadleuol yn ystod y dirwasgiad economaidd. Mae e-ddysgu trwy learndirect yn llwyddo oherwydd y dewis eang o gyrsiau a’r lefelau gwahanol sydd ar gael. Os oes ystafelloedd dysgu gan y cwmni, fel arfer mae modd i ni ddod â’r dysgu at y dysgwyr!”

Meddai Ian White, Arweinydd Uned Rheoli Busnes Penny & Giles: “Fel y rhan fwyaf o gwmnïau gweithgynhyrchu, fe ddioddefon ni yn sgil y dirwasgiad a gorfod colli gweithwyr medrus. Ar ôl gofyn am gymorth, daeth Coleg Gwent i’r adwy i’n helpu i ddarparu’r cynllun hyfforddi mwyaf erioed yn hanes y cwmni. Fe ddewison ni gymwysterau ECDL ar gyfer nifer fawr o’r staff am ein bod eisiau sicrhau bod gan ein gweithwyr sgiliau busnes hanfodol yn barod ar gyfer adferiad yr economi. Erbyn hyn, mae popeth yn y ffatri ar gyfrifiaduron, felly'r peth callaf oedd rhoi blaenoriaeth i TG.”

Yn ystod yr ymweliad, bu’r Dirprwy Weinidog yn siarad â rheolwyr a gweithwyr cyflogedig Penny & Giles Cyf. a gwelodd â’i llygaid ei hun sut mae modd integreiddio e-ddysgu i mewn i’r gweithle fel ffordd effeithiol ac effeithlon o hyfforddi staff.

Yn ôl Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau: “Mae cyflwyno e-ddysgu hyblyg yn y gweithle yn ffordd ragorol o roi sgiliau ychwanegol ac anogaeth i weithwyr cyflogedig yn enwedig yn y sefyllfa bresennol lle nad yw busnesau’n gallu fforddio rhyddhau eu staff i fynychu hyfforddiant. Roedd hyblygrwydd learndirect wedi creu cryn argraff arnaf yn ogystal â’r amrywiaeth o gyrsiau a oedd ar gael. Mae Coleg Gwent yn llwyddo i ddiwallu anghenion cyflogwyr yn lleol ac mae Penny & Giles yn arbennig wedi elwa’n fawr ar yr hyfforddiant. Os oes prinder sgiliau mewn unrhyw gwmni, rwy’n eu hannog i gysylltu â Llywodraeth Cynulliad Cymru a’u coleg lleol am gymorth.”

Siaradodd y Dirprwy Weinidog yn benodol â Sharon Harris - hi oedd y 40,000fed person i ymrestru ar gwrs learndirect Coleg Gwent pan ymunodd â chwrs i ennill cymhwyster ECDL.  Meddai Sharon: “Rwy’n llawer mwy hyderus ar ôl cael fy hyfforddi ac mae ennill cymwysterau TG ar lein trwy ddulliau hyblyg learndirect wedi bod yn ddelfrydol i fi. Roedd cael y ganolfan ddysgu ar y safle a’r cymorth gan Goleg Gwent yn wych, ac rwy’n siŵr bod yr hyder newydd a gefais yn sgil yr hyfforddiant yn un o’r rhesymau dros roi dyrchafiad imi’n ddiweddar o’r maes gwasanaethau cwsmeriaid i fod yn Gydlynydd Cynhyrchu.”

Os yw eich cwmni wedi’i leoli yng Ngwent, ac os hoffech ddysgu mwy amdanom, mae croeso i chi ffonio’r Uned Datblygu Busnes ar 01495 333526.  I gael mwy o wybodaeth am gyrsiau a chymwysterau learndirect, ewch i www.learndirect.co.uk neu ffoniwch 0800101901.

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team