Mae’r sesiwn ryngweithiol hon gan learndirect wedi’i seilio ar greu'r amgylchedd cywir ar gyfer dysgu ar-lein.
Ymunwch â’r seminar i weld rhai o’r technegau sy’n cael eu defnyddio i greu cymuned o e-ddysgwyr cadarnhaol, yn cynnwys mesurau syml i feithrin hyder, creu rhaglenni ar gyfer dysgu gan ddefnyddio ffôn symudol a gwneud defnydd effeithiol o bethau poblogaidd fel Facebook.
Bydd y seminar yn rhan o gynhadledd sgiliaucymru, y gynhadledd ryngweithiol fwyaf o’i bath a gynhelir yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd am 10.15am ddydd Iau 16 Medi.
Os na allwch chi ddod i’r seminar dewch i weld staff learndirect yn stondin 22 i ddysgu mwy am gyrsiau a chymwysterau learndirect ac i gymryd rhan yn y gystadleuaeth i ennill ipod touch! Am ragor o wybodaeth ewch i www.learndirect.co.uk/skillscymru.