Y Gweinidog Treftadaeth yn mynychu dosbarth ESOL

Mae Coleg Menai Caernarfon wedi lansio cwrs iaith Saesneg newydd sbon wedi ei anelu at bobl nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

Daeth y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones AC, i Goleg Menai Caernarfon i gael blas ar y cwrs ELLIS sef system dysgu iaith ar-lein gan learndirect.

Dywedodd Lynn Lording-Jones, sy’n rhedeg cyrsiau ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yng Ngholeg Menai: “Rydym yn hynod o falch o allu cynnig y cwrs yma yng Ngholeg Menai Caernarfon am y tro cyntaf. Bydd myfyrwyr sy’n byw yn lleol nawr yn gallu galw i mewn i Goleg Menai Caernarfon ar amser sy’n eu siwtio - yn ystod y dydd ar ddydd Mawrth ac ar nos Iau. Ar y cwrs, mae myfyrwyr yn defnyddio cyfrifiaduron i ddysgu Saesneg - maent yn cael y cyfle i recordio eu llais, ymarfer synau, gwylio clips fideo o sefyllfaoedd pob dydd a dysgu ar gyflymdra sy’n eu siwtio.”

Sgwrsiodd un fyfyrwraig, Eva Chapela Orri, efo’r Gweinidog am beth roedd hi’n ei hoffi am y cwrs ELLIS. Dywedodd Eva, sy’n 24 oed ac yn wreiddiol o Sbaen: “Des i’r wlad yma i ddysgu Saesneg. Rwyf ar hyn o bryd yn astudio cwrs ESOL llawn amser ac mae ELLIS yn fodiwl ar y cwrs. Dwi’n ffeindio’r cwrs yn ddefnyddiol iawn gan ein bod yn cael gwrando ar bobl yn siarad yr iaith - sy’n rhywbeth dwi’n ei ffeindio’n anodd i’w ddeall weithiau.”

Am fwy o wybodaeth ar gyrsiau ESOL neu ELLIS yng Ngholeg Menai ffoniwch 01248 383 347 neu e-bostiwch esol@menai.ac.uk

We'd love to know what you think of our website. Please tell us what you like and what we need to do better, by taking part in our survey at the end of your visit. The survey is:


Thanks for your help,
The learndirect team

Take survey later Opens new window