Mae darparwr e-ddysgu mwyaf Cymru,
learndirect, wedi dadorchuddio cynlluniau i ddarparu cyfleoedd dysgu
hyblyg yng nghanol cymunedau ledled y wlad.
Lansiodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones llawlyfr llyfrgelloedd learndirect, sy’n galluogi awdurdodau lleol i gynnig cyfle i ddinasyddion ennill sgiliau a chymwysterau yn eu llyfrgell.
Mae nifer o ddarparwyr learndirect eisoes yn gweithio’n
llwyddiannus gydag awdurdodau lleol a llyfrgelloedd ledled Cymru i alluogi
unigolion i fanteisio ar gyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol ar garreg
eu drws.
Meddai Jeff Greenidge, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ufi/learndirect Cymru: “Mae llyfrgelloedd wastad wedi bod yn adnodd dysgu allweddol mewn cymunedau, ac mae darparu cyfleoedd dysgu ar-lein mewn llyfrgelloedd yn galluogi mwy o bobl i fanteisio ar yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael ar garreg eu drws. Mae yna sawl ffordd y gall llyfrgelloedd gymryd rhan, a bydd y llawlyfr hwn yn dangos sut y gallan nhw gyflwyno dysgu ar-lein yn hawdd trwy learndirect”.
Lansiwyd Llawlyfr Llyfrgelloedd learndirect yn swyddogol gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones yn Llyfrgell Caernarfon ddoe ac meddai, “Braint yw cael lansio’r llawlyfr hwn, ac rwy’n siŵr y bydd yn annog mwy o lyfrgelloedd i ddatblygu partneriaethau llwyddiannus gyda learndirect. Mae ein llyfrgelloedd cyhoeddus mewn sefyllfa ddelfrydol i gynnig y math hwn o wasanaeth, gan ddarparu amgylchedd hygyrch a chroesawgar lle bydd dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu symbylu a’u hannog. Mae gan lawer o lyfrgelloedd ystafelloedd hyfforddi penodedig, a chyda’r cynllun hwn a chynlluniau tebyg, mae yna lu o gyfleoedd dysgu TGCh ar gael. Beth am ymweld â’ch llyfrgell leol i weld beth sydd ar gael?”