Ceiswyr gwaith Abertawe’n gwella’u sgiliau cyfrifiadurol

Mae ceiswyr gwaith yn Abertawe’n dechrau sylweddoli bod sgiliau cyfrifiadurol a rhyngrwyd yn hanfodol er mwyn cael swydd. 

Yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan learndirect, y darparwr dysgu ar-lein mwyaf yng Nghymru, mae’r cwrs Surf Direct yn boblogaidd dros ben yn ardal Abertawe. Eleni, mae 128 o unigolion eisoes wedi mynd ati i wella’u sgiliau cyfrifiadurol er mwyn eu helpu i ddod o hyd i waith yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae dysgu ar-lein trwy learndirect yn hygyrch, hyblyg ac yn ddelfrydol i’r rheini sydd newydd gael eu diswyddo neu golli eu gwaith ac sydd am ennill sgiliau newydd er mwyn dychwelyd i’r gweithlu’n ddi-oed. Nid yw dull dysgu ar-lein learndirect yn cael ei gyfyngu gan amserlenni neu oriau gwaith, ac nid yw’n gyfyngedig i leoliadau penodol. Gall dysgwyr ymrestru ar gwrs unrhyw bryd, a gallant ddysgu ar eu cyflymder eu hunain yn eu canolfan ddysgu leol, gartref neu hyd yn oed yn eu llyfrgell leol. 
Mae Julie Hawkes, Rheolwr Rhaglenni JLP, yng Nghanolfan Ffordd y Brenin, wedi gweld y cynnydd mewn galw yn Abertawe: “Rydyn ni’n gweld nifer o unigolion sydd wedi colli’u swyddi’n ddiweddar, ac mae gwybod eu bod yn gallu ymrestru ar gyrsiau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ennill sgiliau newydd yn rhoi gobaith iddyn nhw allu dychwelyd i’r gweithlu’n fuan”.
Surf Direct yw’r cyflwyniad perffaith i gyfrifiaduron a’r rhyngrwyd i ddechreuwyr. Mae’n cwmpasu’r sgiliau sylfaenol, fel defnyddio’r llygoden a’r bysellfwrdd, a byddwch yn edrych ar y gwahanol ffyrdd o ddefnyddio cyfrifiaduron yn y gwaith i gyflawni tasgau’n gyflymach a gwella dulliau cyfathrebu. Mae’r cwrs yn esbonio beth yw meddalwedd a Windows ac yn dangos sut i’w defnyddio. Byddwch yn dysgu sut i fynd ar y rhyngrwyd, sut i anfon a derbyn negeseuon e-bost a sut i ddod o hyd i wybodaeth ar y We. Rhennir y cwrs yn ddarnau byr a bydd yn cymryd 3 i 9 awr i’w gwblhau, a gallwch weithio drwy’r cwrs ar eich cyflymder eich hun.
Meddai Pam Sutton o Ganolfan Byd Gwaith: "Byddwn yn annog ceiswyr gwaith i gael cymaint o hyfforddiant â phosibl. Bydd ennill y sgiliau angenrheidiol yn rhoi mantais i chi wrth ymgeisio am swyddi ac yn eich gwneud chi’n fwy deniadol i ddarpar gyflogwyr. Mae cyfrifiaduron wedi gweddnewid y ffordd mae busnesau’n gweithio ac mae’r rhan fwyaf o sefydliadau bellach yn disgwyl y bydd eu staff yn gallu defnyddio e-bost a’r rhyngrwyd yn hyderus."

Yn wir, mae’r galw am sgiliau a chymwysterau TGCh learndirect ymhlith pobl ddiwaith yn Abertawe’n fwy nag yng ngweddill Cymru. Ar y cyfan, mae 50% o ddysgwyr learndirect am wella’u sgiliau TGCh yng Nghymru, ond mae’r ffigwr yn 67% yn Abertawe.

Am ragor o wybodaeth am sgiliau a chymwysterau learndirect neu i ddod o hyd i’ch canolfan ddysgu leol, ewch i www.learndirect.co.uk neu ffoniwch 0800 101 901.