Dysgwyr Ugain o Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg
Glannau Dyfrdwy yw rhai o’r dysgwyr cyntaf yng Nghymru ag anghenion
cymorth ychwanegol i gyflawni cymhwyster learndirect ym
maes Technoleg Gwybodaeth (TG).
Cyflwynodd y cwrs ‘TG bob dydd’ bwyntiau sylfaenol cyfrifiadur personol i’r dysgwyr. Bu’r grwp, sy’n cynnwys pobl â gwahanol lefelau o anghenion cymorth, yn dilyn y cwrs dros gyfnod o bedwar mis yng nghanolfan learndirect Coleg Glannau Dyfrdwy ac ar eu cyfrifiaduron eu hunain gartref. Gan ddysgu wrth eu pwysau, astudiodd y myfyrwyr gasgliad o wahanol unedau, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel, sut i lawrlwytho cerddoriaeth a lluniau a sut i anfon a darllen negeseuon e-bost.
Meddai Dave Davies, un o diwtoriaid Sgiliau Byw’n Annibynnol Coleg Glannau Dyfrdwy: “Mae cwrs learndirect wedi bod yn ddelfrydol i’n dysgwyr. Maen nhw’n gallu gweithio wrth eu pwysau ac ymarfer defnyddio rhaglenni cyn cael eu hasesu. Gallan nhw hefyd ail-wneud asesiadau i wella eu sgiliau os bydd angen.”
“Yr hyn sy’n galonogol yw bod rhai aelodau o’r grwp wedi mynd ati i ddilyn y cwrs gartref. Mae hyn yn dangos eu bod yn datblygu eu hyder a’u hannibyniaeth.”
Meddai Phil Lloyd, Pennaeth learndirect yng Nghymru: “Mae clywed am lwyddiant fel hyn yn ysbrydoli eraill ac yn pwysleisio pa mor hanfodol yw dysgu hygyrch i bob oedolyn sy’n dysgu. Rwy’n falch iawn o’u llwyddiant ac yn gobeithio y byddan nhw’n parhau ar eu llwybr dysgu gyda learndirect.”
Meddai Melanie Mansfield, myfyriwr a gyflawnodd y cymhwyster ‘TG bob dydd’: “Roeddwn wrth fy modd yn dilyn y cwrs. Rwyf wedi dechrau lawrlwytho lluniau o’m camera yn barod ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am gyfrifiaduron.”